Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (233)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer mis Hydref sy’n dangos mai dim ond 55.5% o ymatebion brys i alwadau categori A (bygythiad difrifol i fywyd) a gyrhaeddodd y safle o fewn wyth munud? EAQ(4)0524(HSS)
|
3 Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (60 munud) NDM5637 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 19 Tachwedd 2014.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
|
4 Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) (60 munud) NDM5628 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
Dogfennau Ategol
Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5638 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth genedlaethol Cymru.
2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran denu ymwelwyr i Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu strategaeth integredig i hyrwyddo llwybrau twristiaeth ffydd megis y Ffordd Sistersaidd a denu mwy o ymwelwyr i fannau addoli yng Nghymru. 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pwysigrwydd adeiladau crefyddol yn cael ei ymgorffori o fewn y Bil Treftadaeth.
|
6 Cyfnod pleidleisio
|
7 Dadl Fer (30 munud) NDM5635 Nick Ramsay (Mynwy)
Cŵn Tywys Cymru: rhyddid i symud i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.
I godi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cŵn Tywys Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg.
|
8 Dadl Fer - Gohiriwyd o 19 Tachwedd 2014 (30 munud) NDM5629 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn yn y gweithlu ledled Cymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2014